Teithiau Cook

Nos Iau 24 Awst @ 6.15PM AM DDIM

Blwyddyn Olaf Schubert

Yn ystod tri mis ar ddeg olaf ei fywyd, cyfansoddodd Schubert rai o’i weithiau cerddorol mwyaf. Ar ôl ei Gylch Caneuon Winterreise, a gwblhawyd fwy na thebyg ym mis Hydref 1827, cyfansoddodd ei Offeren olaf, tair sonata i’r piano, ei drydydd cylch caneuon Schwanengesang a’r pumawd llinynnol aruchel cyn ei farwolaeth ar 19eg Tachwedd 1828. Ai ymdeimlad â’i farwoldeb ei hun a esgorodd ar y rhyferthwy cerddorol hwn neu feddwl cerddorol aflonydd wrth chwilio am ffyrdd o ymdrin â ffurfiau cerddorol?