Perla Barocca

Nos Wener 25 Awst @ 7.30PM Tocynnau £20.00

Rachel Podger Feiolinydd
Marcin Świątkiewicz Harpsicord

Bron nad yw’r feiolinydd adnabyddus Rachel Podger yn lleol – mae’n byw yng Nghrucywel, Powys. Mae Gŵyl Machynlleth yn ei chroesawu i’r Tabernacl gyda’i chyd-gerddor rheolaidd, yr harpsicordydd blaenllaw o Wlad Pwyl, Marcin Świątkiewicz. Maent yn cyflwyno rhaglen hyfryd i ni o JS Bach ynghyd â gemau Eidalaidd cynnar gan Vivaldi, Corelli a Scarlatti.