Gwobr Glyndŵr

Dydd Gwener 25 Awst @ 1.00PM Tocynnau £7.00

Dylan Iorwerth

Dylan Iorwerth yw derbynnydd Gwobr Glyndŵr eleni am Gyfraniad Arbennig i’r Celfyddydau yng Nghymru.

Mae Dylan yn newyddiadurwr proffesiynol ers 39 o flynyddoedd, gan weithio ar draws yr holl wahanol gyfryngau ac yn helpu i sefydlu amrywiaeth o gyhoeddiadau – Sulyn, Golwg, WCW a’i Ffrindiau, Lingo Newydd a Golwg360. Mae hefyd yn awdur ac wedi ennill pob un o dair prif wobr lenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol.