Wythawd Mendelssohn i Linynnau

Dydd Sul 27 Awst @ 1.00PM Tocynnau £12.00

Pedwarawd Llinynnol Solem a Phedwarawd Llinynnol Ruisi

Mae Pedwarawd Solem yn breswyl ym Mhrifysgol Lerpwl a Musicfest Aberystwyth ac yma maent yn ymuno â phedwarawd llinynnol ifanc rhagorol arall, y Ruisi, ar gyfer perfformiad o Wythawd mawr Mendelssohn i linynnau, gorchestwaith a ysgrifennwyd pan oedd y cyfansoddwr, credwch neu beidio, yn ddim ond un ar bymtheg oed.

Shostakovich Preliwd a Scherzo op 11
Mendelssohn Wythawd yn E fflat op 20